'Dim angen' ymddiswyddo medd arweinydd Cyngor Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Phil Bale, arweinydd cyngor Llafur Caerdydd wedi dweud "nad oes angen" iddo ymddiswyddo wedi i dri chynghorydd o'r blaid ymddiswyddo gan adael y blaid gyda mwyafrif o dri.
Dywedodd Mr Bale mai fo "yw'r person cywir i symud y ddinas yn ei blaen".
"Does dim angen i mi ymddiswyddo, rwyf wedi ymrwymo i'r swydd," meddai.
Ymddiswyddodd dau gynghorydd grŵp Llafur ar y cyngor mewn cyfnod o ddau ddiwrnod, ac mae honiadau o fwlio a hiliaeth o fewn grŵp Llafur Caerdydd. Dywedodd Mr Bale fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r honiadau.
Galwodd ffynhonnell Llafur sydd yn gyfarwydd gyda'r grŵp ar i Mr Bale ymddiswyddo.
Ymddiswyddo
Dywedodd Mr Bale ddydd Iau nad oedd unrhyw awgrym y byddai mwy o gynghorwyr yn ymddiswyddo, ac ychwanegodd y byddai "camau'n cael eu cymryd" os oedd tystiolaeth fod achosion o hiliaeth wedi digwydd.
Dywedodd: "Mae gennym ni fwyafrif yng Nghaerdydd, gallwch redeg cyngor gyda'r mwyafrif yna.
"Yn wir mae nifer o gynghorau'n cael eu rhedeg yn llwyddiannus gyda mwyafrif o'r math yma."
"Os ydych yn barnu fy record ar ganlyniadau rydych wedi gweld datblygiad sylweddol yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.

Roedd y ddau gynghorydd oedd wedi ymddiswyddo'r wythnos hon wedi gwneud honiadau yn erbyn grŵp Llafur Caerdydd.
Dywedodd y byddai ymchwiliad i honiadau'r cynghorwyr Manzoor Ahmed a Susan White.
"Rwyf am bwysleisio eto ein bod yn cymryd honiadau o fwlio yn ddifrifol iawn," meddai, gan ddweud nad oedd ganddo "unrhyw oddefgarwch am y math yna o ymddygiad".
'Rhaid' ymddiswyddo
Ond dywedodd ffynhonnell o fewn Llafur: "Rhaid i Phil ymddiswyddo. Rhaid iddo. Dyw e ddim yn gallu arwain."
Galwodd hefyd ar Lafur Cymru i ymyrryd: "Mae'r grŵp yn mynd a'i ben iddo."
Wrth leisio pryder y byddai'r grŵp yn cael "cweir" yn yr etholiadau lleol ym mis Mai, dywedodd y ffynhonnell y gallai'r grŵp wynebu sefyllfa lle nad oedd yn gallu sicrhau cefnogaeth ar gyfer cyllid y cyngor mewn pleidlais.
"Mae gennym ni fwyafrif o dri. Mae gennym ni... aelodau sydd ddim yn sefyll eto. Ni all y chwip gael llawer o ddylanwad arnyn nhw. Fyddwn i ddim yn synnu petai mwy o bobl yn ymddiswyddo," meddai.
"Ond fyddwn i ddim yn synnu chwaith os oes mwy yn dod allan am y diwylliant y mae'r arweinydd gyda rheolaeth drosto."
Dywedodd ffynhonnell Llafur arall sydd yn adnabod y grŵp yn dda: "Rhaid i rywun gael gafael ar hyn. Rhaid i Phil gael gafael ar hyn.
"Mae wedi colli awdurdod o fewn y grŵp. Rwy'n credu fod yn rhaid iddo ystyried ei sefyllfa."
Dywedodd Llafur Cymru ei fod yn barod yn cynnal ymchwiliad i honiadau gafodd eu gwneud gan Susan White.