Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad A499 yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd fore Iau.
Roedd y dyn, o ardal Pen Llŷn, yn gyrru beic modur Honda ar yr A499 rhwng Llanaelhaearn a Pharc Glasfryn pan fu mewn gwrthdrawiad gyda Toyota coch am 11:40.
Dywedodd yr heddlu bod teulu'r dyn wedi cael gwybod, ond nad oedd mwy o wybodaeth ar gael ar hyn o bryd.
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y digwyddiad.