Galw ambiwlans awyr i wrthdrawiad ffordd yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y ddamwain ar yr A548 ger y troad tuag at Dreffynnon
Mae'r ambiwlans awyr wedi eu galw i wrthdrawiad rhwng car a beic modur yn Sir y Fflint.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y gwrthdrawiad wedi digwydd ger cyffordd yr A548 a'r A5026, rhwng Bagillt a Threffynnon.
Cafodd yr A548 ei chau i gyfeiriad y gorllewin am gyfnod, ond mae hi bellach wedi ailagor.
Does dim manylion eto ynglŷn ag unrhyw anafiadau.