Lluniau: Cŵn Cymru Fyw

  • Cyhoeddwyd

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau arlwy Ci-mru Fyw yn ystod y 2016. Dyma i chi luniau rhai o'n ffrindiau wnaeth serennu yn ein horielau lluniau yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

line
ci

Dwy lygaid las - Dyma i chi lun trawiadol o oriel Gaeaf yn y gogledd gan Geraint Thomas

line
pero

Dych chi'n cofio Pero? Fe fuodd e ar daith ryfeddol 240 milltir o'i gartre newydd yn Cockermouth, Cumbria i'w filltir sgwâr ym Mhenrhyn-coch.

line
cigo

Ci-sgodi rhag yr haul. Mi welodd Iestyn Hughes y cyfaill hwn tra'n tynnu lluniau ar gyfer ei gyfrol ffotograffau Ceredigion wrth fy nhraed.

line
chops

Mi gafodd hwn ddiwrnod i'r brenin yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon...

line
cio

... ac roedd 'na ddigonedd o gŵn poeth yno

line
Oedd y dewisiadau yn ddigon radici-alaidd yn Etholiad y Cynulliad i'r ddau ffrind yma?Ffynhonnell y llun, BBC Sport

Oedd y dewisiadau yn ddigon radici-alaidd yn Etholiad y Cŵnulliad i'r ddau ffrind yma?

line
Banjo

Mi fynnodd Banjo y labrapŵdl fod ei berchennog Kerry Jones yn cael diwrnod o ddiwylliant yn Steddfod y Fenni

line
mac

Todd a Mack yw'r ddau gi defaid yma yn mwynhau'r cystadlu yn Sioe Môn

line
daeargwn

Dyma i chi ddau ddaeargi ynysig.. yn llythrennol. Maen nhw'n byw ar Ynys Enlli gyda'u perchnogion Steve a Joanna Porter.

line

Beth am anfon selff-gi ohonoch chi gyda'ch ffrind pedair coes chi?

Barrwg
Disgrifiad o’r llun,

Dyma Barrwg, ci Myfanwy Neal o Fedwas yn joio ar draeth Rhosili ym Mhenryn Gwŷr.

Zebo, ci llawn bywyd y ffotograffydd Iolo Penri o Gaernarfon ydy hwn
Disgrifiad o’r llun,

Zebo, ci llawn bywyd y ffotograffydd Iolo Penri o Gaernarfon ydy hwn

Anfonwch eich lluniau at cymrufyw@bbc.co.uk neu at ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw neu ein tudalen facebook , dolen allanol