Croesawu ymgynghoriad ar gosbau llymach i yrwyr peryglus
- Cyhoeddwyd

Mae teulu o Geredigion wedi croesawu'r cyhoeddiad y gallai gyrwyr sy'n achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus neu'n esgeulus wynebu cosbau llymach.
Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod dechrau ar ymgynghoriad gyda'r nod o ymestyn dedfrydau troseddwyr.
Mae modurwyr sy'n achosi marwolaeth tra'n gyrru'n rhy gyflym, yn rasio neu'n defnyddio ffon symudol ymhlith y rhai allai wynebu dedfrydau hirach
Fe allai troseddwyr sy'n lladd tra'n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau wynebu carchar am oes.

Miriam Briddon
Cafodd Miriam Briddon ei lladd mewn gwrthdrawiad ym mis Ebrill 2014.
Fe gafodd Gareth Entwistle o Giliau Aeron, Llanbedr Pont Steffan, ddedfryd o bum mlynedd am achosi ei marwolaeth drwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad alcohol. Dim ond hanner y cyfnod hwnnw y mae'n rhaid iddo ei dreulio dan glo.
Ers hynny, mae teulu Miriam wedi bod yn ymgyrchu am ddedfrydu llymach, ac ym mis Hydref, fe deithion nhw i Lundain i gyflwyno deiseb i'r Prif Weinidog Theresa May.

Teulu Miriam Briddon yn cyflwyno deiseb i Lywodraeth Prydain ym mis Hydref
Wrth ymateb i gyhoeddiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder, dywedodd Ceinwen Briddon fod y newyddion yn addawol. "Gobeithio newidith y canllawiau nawr yn dilyn y cyhoeddiad yma, ac y bydd barnwyr yn barod i ddilyn y canllawiau 'ma wrth ddedfrydu.
"Ar hyn o bryd mae mwyafrif y troseddwyr sy'n lladd yn cael llai na phedair mlynedd yn y carchar, er bod y canllawiau yn dweud bod lan hyd at 14 mlynedd yn bosib.
"Gobeithio bydd y canllawiau newydd yma yn fwy o ataliad na beth sydd ar hyn o bryd."
Tra'n croesawu'r cynlluniau, mae elusen diogelwch ffordd Brake yn dweud eu bod yn poeni y gallai'r drosedd lai o yrru "esgeulus" barhau.
Bydd ymgynghoriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn parhau tan 1 Chwefror 2017