Rhoi'r gorau i chwilio am unigolyn yn afon Teifi
- Cyhoeddwyd

Pont Aberteifi
Mae'r gwasanaethau brys yn Aberteifi wedi rhoi'r gorau i chwilio wedi adroddiadau cynharach ddydd Sul fod unigolyn wedi ei weld yn afon Teifi.
Cafodd yr heddlu, gwylwyr y glannau, y gwasanaeth tân a hofrennydd eu galw i bont Aberteifi tua 13:15.
Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r chwilio am 16:30 wrth iddi dywyllu.
Mae gwylwyr y glannau'n dweud y byddan nhw'n parhau a'r chwilio am 09:00 ddydd Llun.