Trydedd rownd Cwpan FA Lloegr: Timau Cymru allan o'r het
- Cyhoeddwyd

Mae timau Cymru wedi darganfod pwy y bydden nhw yn wynebu yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.
Taith i Hull sy'n wynebu Abertawe. Mae Hull un safle'n uwch na'r Elyrch ar hyn o bryd yn nhabl Uwch Gynghrair Lloegr.
Gêm gartref sydd gan Gaerdydd wrth iddyn nhw groesawu Fulham i'r brifddinas.
Fe orffennodd y gêm ail rownd rhwng Plymouth Argyle a Chasnewydd yn ddi-sgôr ddydd Sadwrn felly bydd rhaid ail-chwarae'r gêm honno.
Gwobr y buddugwyr fydd trip i Anfield i herio Lerpwl.
Bydd y gemau i gyd yn cael ei chwarae rhwng 6 a 9 Ionawr.