Cynghorydd yn galw am setlo achos blogiwr Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Prif weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin Mark James a'r blogiwr Jacqui Thompson
Mae aelod o grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno rhybudd o gynnig yn galw ar i'r prif weithredwr Mark James a bwrdd gweithredol y cyngor setlo'r achos yn erbyn y blogiwr Jacqui Thompson, heb iddi "orfod colli ei chartref yn y broses".
Mae Ms Thompson o Lanwrda yn wynebu bil o £190,000 ar ôl colli'r achos o enllib yn erbyn Mark James.
Fe ddywedodd y Cynghorydd Alun Lenny fel rhan o'r cynnig fod penderfyniad y llys i roi dirwy i Ms Thompson wedi "niweidio enw da'r cyngor a'r prif weithredwr."
Ers yr achos llys mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn gorchymyn sydd yn caniatáu iddyn nhw orfodi Ms Thompson i werthu ei chartref er mwyn ei galluogi i dalu ei chostau.
'Mater gwenwynig'
Ar raglen Post Prynhawn Radio Cymru fe ddywedodd Mr Lenny fod yna "berygl mawr y gallai Ms Thompson golli ei chartref a dwi ddim yn credu fod neb sydd gydag unrhyw fath o dosturi yn y byd eisiau gweld hynny yn digwydd.
"Mae rhaid i ni gyrraedd rhyw fath o gyfaddawd lle mae'r mater gwenwynig yma yn dod i ben."
Clymblaid o aelodau Plaid Cymru a chynghorwyr annibynnol sy'n rheoli Cyngor Sir Caerfyrddin ar hyn o bryd.
Mae disgwyl i'r cynnig gael ei drafod mewn cyfarfod llawn o'r cyngor yr wythnos nesaf.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater, ond wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn y rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Lenny.
Mae Ms Thompson wedi rhoi "croeso gofalus" i'r rhybudd o gynnig, er ei bod yn teimlo bod yna 'nifer o faterion sydd heb eu datrys' o fewn geiriad y cynnig.
Mae hi hefyd wedi galw ar i'r cynnig gael ei drafod mewn sesiwn agored o'r cyngor.
'Testun gofid'
Mewn datganiad, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price: "Fy marn bersonol yw y dylai'r Gorchymyn Talu a gafwyd gan y cyngor sir ar gartref Ms Thompson fod yn berthnasol yn unig ar eiddo yn y dyfodol, gydag ymrwymiad clir i beidio â cheisio am Orchymyn Gwerthu a fyddai'n ei gwneud hi a'i theulu yn ddigartref.
"Nid yw er lles unrhyw un, gan gynnwys y cyhoedd, i Ms Thompson golli ei chartref.
"Mae'n destun gofid," meddai, "bod y mater wedi datblygu i'r fath raddau".