Ystyried effaith codi tai ar yr iaith
Mae ymchwiliad cyhoeddus wedi dechrau i gynllun dadleuol i godi dros 350 o dai ar gyrion Bangor.
Cafodd y cais gan gwmni Morbaine i godi'r tai ym Mhen y Ffridd ei wrthod gan Gyngor Gwynedd, oherwydd pryderon ynglŷn â'r effaith ar yr iaith Gymraeg.
Ond mae'r datblygwyr yn apelio gan ddadlau mai pobl leol fyddai'n prynu mwyafrif y tai.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi os bydd y cynllun yn mynd ymlaen neu beidio yn y flwyddyn newydd.
Adroddiad Sion Tecwyn.