Clwb Rygbi Cymry Llundain i gael eu diddymu
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi cadarnhau y byddan nhw'n diddymu eu hunain y wirfoddol, ac wedi dweud wrth eu chwaraewyr am chwilio am glybiau newydd.
Cafodd y clwb, sydd yn chwarae ym Mhencampwriaeth Lloegr, ei ffurfio yn 1871 ac fe dreulion nhw dymor yn yr Uwch Gynghrair yn 2014/15.
Mae nifer o Gymry wedi chwarae i'r clwb dros y blynyddoedd, megis Gavin Henson, Colin Charvis a Tom Shanklin, yn ogystal â nifer o Lewod, gan gynnwys saith o garfan y daith yn 1971.
Ond mae'r clwb wedi wynebu trafferthion ariannol yn ddiweddar, gyda cholledion o £2m yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac roedd ganddyn nhw nes 12 Rhagfyr i dalu bil o £250,000 i'r Swyddfa Dreth.
'Hollol anghynaliadwy'
Mewn datganiad ddydd Mercher fe gadarnhaodd cadeirydd y clwb, Gareth Hawkins, bod y clwb yn bwriadu diddymu ei hun y wirfoddol.
"Mae Cymry Llundain wedi cyrraedd pwynt anodd yn ei hanes disglair," meddai.
"Oherwydd ein cyllideb chwarae o £1.7m a thorfeydd mewn gemau mor isel â 400, mae model busnes presennol y clwb yn hollol anghynaliadwy.
"Mae'r dyledion sydd wedi ymgasglu wrth weithredu yn y modd yma wedi gadael y clwb â dim dewis ond diddymu. Roedd gorfod torri'r newyddion i 40 aelod o staff ddoe yn anodd tu hwnt."
Ychwanegodd Mr Hawkins mai'r bwriad oedd ailsefydlu cwmni newydd yn y flwyddyn newydd i redeg y clwb ar ffurf tîm lled-broffesiynol, ac y byddai angen codi rhyw £300,000 i wneud hynny.