Trenau yn 'gwbl annerbyniol' medd Ysgrifennydd yr Economi
- Cyhoeddwyd

Mae'r amgylchiadau i deithwyr ar drenau yng Nghymru yn "gwbl annerbyniol" yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.
Roedd Mr Skates yn ymateb yn y Senedd i sylwadau gan lefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price a ddywedodd fod y sefyllfa bresennol yn "argyfwng cenedlaethol".
Fe gyfeiriodd Mr Price at dair enghraifft ar wefannau cymdeithasol ddydd Mercher o deithwyr yn disgrifio'r profiad o fod ar drên aeth ar dân, o weld teithiwr arall yn llewygu ar drên oedd yn rhy llawn, ac un yn dweud iddo allu cael sedd ar drên am y tro cyntaf ers bron i flwyddyn.
Bydd Mr Skates yn cwrdd â chwmni Network Rail ddydd Iau i fynegi pryder ynglŷn â'r hyn y mae'n ei alw'n "ddiffyg gwaith cynnal a chadw".
Mae cwmni Trenau Arriva Cymru yn dweud nad ydi 55 o'u 127 o drenau yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd oherwydd bod angen trwsio olwynion sydd wedi cael eu difrodi gan ddail ar y cledrau.
Mewn dadl ar y mater yn y Senedd brynhawn Mercher, galwodd Adam Price ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys.
"Mae'n gwbl annerbyniol, a ni ddylai unrhyw un mewn unrhyw wlad orfod dioddef hyn," meddai.
'Tanwario'n sylweddol'
Wrth ymateb, fe gytunodd Ken Skates bod y sefyllfa yn annerbyniol.
"Rydym yn gwbl gadarn gyda'r cwmnïau," meddai.
"Rydym hefyd yn gwbl gadarn gyda Network Rail sydd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi tanwario'n sylweddol ar y rhwydwaith yng Nghymru."
Ychwanegodd y bydd yn cwrdd â Network Rail ddydd Iau i ddweud "unwaith eto" ei fod yn siomedig gyda'r diffyg gweithredu.
Yn ôl Trenau Arriva Cymru, mae ganddyn nhw lai o le i gludo teithwyr ar rwydwaith Caerdydd a'r Cymoedd ar hyn o bryd oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ar olwynion trenau sydd wedi cael eu difrodi gan ddail ar y cledrau.
Mae hynny'n broblem sy'n wynebu pob cwmni trenau ym Mhrydain yn ystod yr hydref, yn ôl y cwmni.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn deall, ac yn ymddiheuro i deithwyr am y rhwystredigaeth yn ymwneud â phrinder lle ar drenau, sydd wedi gwaethygu yn ddiweddar oherwydd y gwaith cynnal a chadw ychwanegol yn sgil olwynion wedi eu difrodi.
"Rydym yn parhau i weithio'n galed gyda'n partneriaid, Network Rail i geisio lleihau'r effeithiau."