Blwyddyn o drydar

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyfrif Twitter @BBCCymruFyw, dolen allanol wedi bod yn brysur iawn eleni yn trydar am straeon mawr Cymru.

Ydych chi'n cofio'r straeon yma?

line

Yr Undeb Ewropeaidd? Dim diolch...

Refferendwm - map Cymru

Dyma oedd stori fawr mis Mehefin, pan bleidleisiodd y DU o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd 17 o'r 22 o etholaethau yng Nghymru i adael - 52.5% o'r boblogaeth.

line

Sêr medalog Cymru

Croesawu sêr Rio

Cafodd athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd groeso cynnes ym Mae Caerdydd ym mis Medi ar ôl dychwelyd o Rio, gyda'u 10 medal Olympaidd a 7 medal Baralympaidd.

Ymhlith enillwyr y medalau aur oedd Owain Doull, y Cymro Cymraeg cyntaf i ennill medal aur Olympaidd, Jade Jones, aeth ymlaen i ennill Personoliaeth Chwaraeon Cymru eleni, ac Aled Siôn Davies a enillodd fedal aur am daflu'r pwysau, a llwyddo i dorri record byd deirgwaith wrth gystadlu!

line

Er gwaethaf addysg Gymraeg...

#despitebeingtaughtinwelsh

Dechreuodd yr hashnod #despitebeingtaughtinwelsh trendio yng Nghymru fis Ionawr yn dilyn geiriad 'anffodus' mewn erthygl gan Media Wales ynglŷn ag addysg chwaraewr rygbi Cymru, Jamie Roberts.

Er i Media Wales ail-eirio'r frawddeg yn dilyn cwynion, trodd cannoedd at Twitter i frolio am eu llwyddiannau, 'er gwaethaf' y ffaith eu bod wedi derbyn addysg Gymraeg.

line

Cofio hanner canrif ers y drychineb ysgwydodd y byd

Aberfan

Ar 21 Hydref, roedd Cymru a'r byd yn cofio trychineb Aberfan, lle bu farw 144 o bobl pan gwympodd gwastraff pwll glo ar y pentref, hanner can mlynedd yn ôl.

line

Eira mân, eira mawr mis Mawrth

Eira

Pwy sydd ddim yn hoffi eira?! Cafodd llawer o Gymru ei gorchuddio gan y stwff gwyn, a hynny ym mis Mawrth.

line

Yr Eisteddfod yn cofio drwy gân

Cordydd

Roedd perfformiad buddugol Côrdydd yn yr Eisteddfod eleni yn deyrnged hyfryd i'w harweinydd Sioned James, a fu farw ym mis Gorffennaf. Enillodd y côr wobr Côr yr Ŵyl, ac roedd y gynulleidfa ar eu traed yn dilyn eu perfformiad pwerus, llawn emosiwn.

line

Merci fechgyn Coleman!

Diolch i dîm pêl-droed Cymru

Am haf oedd hi i dîm pêl-droed Cymru, a'u cefnogwyr! Llwyddodd Cymru, nid yn unig i gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth bêl-droed fawr am y tro cyntaf ers 1958, llwyddon nhw i gyrraedd y rownd gyn-derfynol. Pwy all anghofio troad Cruyff anhygoel Hal Robson-Kanu, dawnsio unigryw Joe Ledley a gôl-ar-ôl-gôl Gareth Bale.

Llwyddodd y tîm i roi Cymru, a'r Gymraeg, ar y map - DIOLCH!