Rhybudd UKIP Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd

Fe ymgyrchodd Carwyn Jones i aros yn yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi beirniadu safbwynt arweinydd ei blaid ar fewnfudo.
Yn ôl Mr Jones mae angen i Jeremy Corbyn ddelio â "materion real mewnfudo" yn hytrach na gwneud "addewidion ffug" am niferoedd.
Hawliodd Mr Jones bod rhannau eraill o'r wlad yn gweld mewnfudo mewn ffordd wahanol i agwedd "Llundeinig" Mr Corbyn a'i gefnogwyr.
Mewn cyfweliad gyda'r Guardian mae Mr Jones yn feirniadol o safbwynt Llafur ynglŷn â cheisio cefnogi cymunedau i ddelio â mewnfudo - yn hytrach na rheoli niferoedd yn unig.
Yn ôl Mr Jones: "Y perygl yw bod hynny yn agwedd Llundeinig iawn - dyw pobl y tu allan i Lundain ddim yn gweld pethau fel hyn."
"Mae Llundain y wahanol iawn, mae'n ddinas amlddiwylliannol ac mae lefelau uchel o fewnfudo yno. Nid felly y mae hi mewn rhannau eraill o'r DU."
Yn ystod y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd dywedodd fod llawer o bobl wedi dweud wrtho: "Ni'n pleidleisio i adael Mr Jones , ond peidiwch poeni - 'ni dal yn cefnogi Llafur."
"Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad yw'r bobl yna yn neidio tuag at bleidleisio i UKIP," meddai Carwyn Jones.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r blaid Lafur ymateb i sylwadau Mr Jones.