Siop yn Sir Benfro yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed
- Cyhoeddwyd

Mr a Mrs JK Lewis a'u mab Harri yn y siop wreiddiol yn Dandderwen, Penygroes
Yn oes yr archfarchnadoedd a siopa ar-lein, mae un busnes lleol o Sir Benfro yn llwyddo i nofio yn erbyn y llif.
Eleni, mae cwmni JK Lewis a'i Fab yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.
Fe sefydlwyd y busnes ym 1926, yng nghanol caledi y Streic Fawr.
Penderfynodd brodor o Gwmaman, Aberdâr - JK Lewis - i symud i fyw ym mhentref bach Penygroes yn Sir Benfro i ddechrau bywyd newydd.
Fe ddechreuodd siop newydd yn Dandderwen ger Capel Penygroes.

Byddai nwyddau yn cael eu dosbarthu bryd hynny ar gefn cefn a chart. Roedd y siop yn gwerthu bob math o nwyddau groser, dillad, hetiau ac roedd hefyd yn swyddfa bost.
Fe drawsnewidiwyd y busnes yng nghanol y 1950au pan brynodd ei fab, Harri safle yng nghanol pentref Crymych, ac fe agorwyd Preseli Stors.
Fe werthodd mab Harri, Keith, y busnes i Carwyn a Sian James yn 2006, ond mae'r enw JK Lewis a'i Fab wedi cael ei gadw.
Dywedodd Mr James: "Erbyn hyn ni'n cyflogi 53 o bobl - 5 o Wlad Pwyl a'r gweddill yn bobl leol.
"Ni'n darparu bara i bob un o ysgolion y sir a ni'n canolbwyntio ar y gwasanaeth a'n gwybodaeth o'r ardal leol; does yna ddim pentref sydd yn llwyddo cystal yng ngogledd Sir Benfro a Chrymych.
"Ni'n dibynnu ar bobl leol i'n cefnogi ni."