Bygwth dod â chytundeb Plaid a Llafur i ben os fydd mwyafrif
- Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y bydd cytundeb i gydweithio gyda Llafur yn dod i ben os oes AC arall o du allan i Lafur yn cael ei benodi yn weinidog i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, y byddai cael "gwrthblaid gref" yn bwysig pe bai'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn sicrhau mwyafrif drwy roi swydd i AC o du allan i'w blaid ei hun.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu sibrydion y bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn arweinydd Plaid Cymru, yn cael ei benodi i'r llywodraeth.
Fe wnaeth Llafur ennill 29 o seddi yn yr etholiad ym mis Mai, dwy yn fyr o gael mwyafrif.
'O ddiddordeb i Gymru'
Mae un gweinidog o du allan i Lafur eisoes yn y llywodraeth - AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, sydd yn ysgrifennydd addysg.
Daeth Llafur a Phlaid Cymru i gytundeb yn dilyn pleidlais gyfartal i ethol prif weinidog newydd.
Fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas adael Plaid Cymru ym mis Hydref i fod yn aelod annibynnol, gan ddweud nad oedd y blaid yn fodlon chwarae rôl mwy "cadarnhaol" gyda Llywodraeth Lafur Cymru.
Daeth Plaid i gytundeb gyda Llafur yn yr un mis i gefnogi'r gyllideb.

Fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas adael Plaid Cymru i fod yn aelod annibynnol
Mewn blog ar wefan Plaid, dywedodd Ms Wood nad oedd cydweithio "wedi digwydd drwy gamgymeriad" ac nad oedd modd ei gymryd yn ganiataol.
"Os yw mathemateg y Cynulliad yn newid, er enghraifft os oes unrhyw Aelod Cynulliad newydd yn dod i mewn i'r llywodraeth o du allan, yna bydd gan Gymru lywodraeth fwyafrifol," meddai.
"Yn yr achos yna, byddai o ddiddordeb i Gymru i gael gwrthblaid gref i Lafur gan Blaid Cymru."
Ychwanegodd y byddai'r cytundeb rhwng y ddwy blaid yn dod i ben petai hynny'n digwydd.
Mae ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru wedi gwadu bod cynnig i'r Arglwydd Elis-Thomas ymuno â'r llywodraeth.