Adeilad newydd 'nodedig' i brifysgol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi rhoi caniatâd cynllunio i Brifysgol Caerdydd ddechrau codi adeilad 'nodedig' gwerth £50m yng nghalon Campws Cathays.
Bydd y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr yn cynnwys gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, gofodau gweithio ac ystafell ddarlithio newydd gyda lle i 550 o bobl.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2017, a chael ei gwblhau erbyn blwyddyn academaidd 2019/20.
Dywedodd is-ganghellor y brifysgol, yr Athro Colin Riordan y byddai'r adeilad yn arwyddnod i'r ddinas, ac fe wnaeth llywydd undeb y myfyrwyr, Sophie Timbers groesawu'r "buddsoddiad mwyaf ym mhrofiad y myfyrwyr mewn cenhedlaeth".