Pobl o'r Arctig yn dysgu am ddiogelu iaith
- Cyhoeddwyd
Craig Duggan aeth i gyfarfod yr ymwelwyr yn Aberystwyth
Mae grŵp o siaradwyr iaith leiafrifol yng Nghanada yn treulio cyfnod yng Nghymru er mwyn gweld sut mae'r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a sut mae'r iaith yn ffynnu fel iaith fyw.
Mae 60 o ieithoedd brodorol yng Nghanada a phob un yn dirywio o ran nifer y siaradwyr.
Ar ben hynny, mae gan bobl yr Inuit naw ffordd wahanol o ysgrifennu eu hiaith, sy'n creu cymhlethdod mawr wrth geisio'i chynnal a'i hadfywio.
Mae'r grŵp yma - sy'n cynnwys athrawon yn bennaf - yn ymweld â Chymru i ddeall mwy am y modd y mae'r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a'i chynnal.
Y gobaith yw y bydd yna gyngor a chymorth i adfer yr iaith Inuktut - ei hiaith frodorol nhw.

Pobl yr Inuit yn derbyn cyngor gan Andrew Hawke, golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru
35,000 o bobl sy'n siarad yr Inuktut. Mae'n iaith heb draddodiad ysgrifenedig cryf ac yn dibynnu ar y to hŷn i'w throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf.
Mae'r grŵp eisoes wedi ymweld â Phrifysgol Bangor a Chaernarfon.
Ddydd Mercher fe fuon nhw yn y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth, ac yn y prynhawn fe gawson nhw'r cyfle i gyfarfod â staff Geiriadur y Brifysgol i drafod prosiect i lunio un ffurf safonol o ysgrifennu eu hiaith.
Doedd ryfedd felly mae 'Arctig' oedd gair y dydd Y Geiriadur ddydd Mercher.
Cyn diwedd eu taith, fe fyddan nhw'n cwrdd â Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, y Prif Weinidog Carwyn Jones a Thywysog Cymru.
Un sy'n eu dilyn ar hyd y daith yw'r awdur Alys Conran. Yn ei hôl hi, mae'n bosib bod lle i Gymru ddysgu ganddyn nhw hefyd.