Toriad o 1.4% i gyllidebau'r pedwar llu heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd pedwar llu heddlu Cymru yn wynebu toriad o 1.4% i'w cyllidebau.
Dywedodd Mark Drakeford bod lluoedd yn Lloegr hefyd yn wynebu'r un toriad, a hynny o ganlyniad i fformiwla gan y Swyddfa Gartref sydd ddim yn ystyried angen.
Bydd cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r £350m o gyllid canolog ar gyfer 2017/18 yn cynyddu o 1.4%, i £138.7m.
Ond dyw'r ffigwr yma ddim yn cynnwys arian allai gael ei godi gan luoedd heddlu yn lleol drwy wirebion - ffioedd all gael eu codi fel rhan o filiau treth cyngor.
'Ystyried y trethdalwyr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r Swyddfa Gartref yn San Steffan oedd yn bennaf gyfrifol am benodi faint o arian fyddai'r lluoedd heddlu yng Nghymru a Lloegr yn ei dderbyn.
Ond fe ychwanegodd y byddai Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yng Nghymru yn cael "tipyn o hyblygrwydd" wrth osod eu gwirebion, yn wahanol i Loegr ble mae cap o 2% ar unrhyw gynnydd.
"Wrth osod eu helfen nhw o'r dreth cyngor, rydyn ni'n disgwyl i bob Comisiynydd Heddlu a Throsedd ystyried y pwysau sydd ar y trethdalwyr lleol," meddai'r llefarydd.
Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn gwarchod y gyllideb o £16.8m ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn 2017/18.