Cytundeb am becyn ariannol i Wylfa Newydd?
- Cyhoeddwyd

Argraff artist o'r orsaf newydd ar Ynys Môn
Mae 'na adroddiadau am gytundeb posib rhwng Llywodraeth Japan a chwmni Hitachi Ltd i ddarparu pecyn ariannol gwerth $8.5bn ar gyfer dwy orsaf niwclear newydd ym Mhrydain - yn cynnwys gorsaf niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
Ffynhonnell yn Llywodraeth Japan sy'n cael ei ddyfynu gan asiantaeth newyddion Reuters. Fe fyddai cytundeb o'r fath yn hwb i gynllun cwmni Horizon sy'n datblygu'r orsaf.
Dywed y ffynhonnell y bydd Banc Japan ar gyfer Cydweithio Rhyngwladol a Banc Datblygu Japan yn darparu cyllid ar gyfer y cynllun, fyddai hefyd yn datblygu gorsaf newydd Oldbury yn ne Sir Gaerloyw.
Dywedodd papur newydd y Nikkei yn Japan y byddai Hitachi'n darparu tua 10% o gost y prosiect, sydd werth $24bn.
Mae cyfranddaliadau yng nghwmni Hitachi wedi cynyddu yn ystod y dydd, ond nid oedd neb o'r cwmni yn fodlon gwneud sylw, gan ddweud nad oedd y ffigwr ariannol wedi ei gyhoeddi.
Mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau y bydd cynrychiolydd yn teithio i Japan er mwyn trafod y mater yr wythnos nesaf.