Drakeford: Cymorth i helpu busnesau i 'ymdopi'
Mae'r ysgrifennydd cyllid wedi cyhoeddi y bydd £10m yn rhagor ar gael i fusnesau er mwyn delio â newidiadau i'w cyfraddau busnes.
Dywedodd Mark Drakeford y byddai'r cyllid yn cael ei dargedu at siopau, tafarndai a chaffis fydd yn wynebu bil treth llawer uwch o ganlyniad i ailasesu eu hadeiladau'n ddiweddar.