Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yng nghanol Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Welcome LaneFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn a'r car wrthrawiad ar Welcome Lane yng nghanol Abertawe

Mae dyn 77 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe nos Wener.

Dywedodd Heddlu'r De ei bod hi'n debyg bod y dyn yn croesi ffordd yng nghanol y ddinas pan fu mewn gwrthdrawiad gyda char Peugeot glas tua 22:30.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys, ond bu farw yno.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y gwrthdrawiad neu sut oedd y cerbyd yn cael ei yrru cyn y digwyddiad.

Dyn 34 oed oedd yn gyrru'r car, ac mae'n helpu'r heddlu â'u hymholiadau.