Cau ymchwiliad i adroddiad o ymosodiad rhyw yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Heddwas ym maes parcio Sant Pedr yng Nghaerfyrddin
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cau eu hymchwiliad i adroddiad o ymosodiad rhyw honedig yng Nghaerfyrddin.
Roedd rhan o faes parcio Sant Pedr ar gau yn gynharach ddydd Sadwrn ar gyfer profion fforensig.
Dywedodd yr heddlu ar y pryd eu bod yn ymchwilio i adroddiad am ymosodiad ar fenyw yn gynnar fore Sadwrn.