Y Dreigiau 'wedi canslo' polisi yswiriant cyn-chwaraewr
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i Andrew Coombs ymddeol oherwydd anaf i'w ben-glin
Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Andrew Coombs yn dweud ei fod "yn ddig ac yn siomedig" bod rhanbarth y Dreigiau wedi dod a'i bolisi yswiriant i ben.
Fe wnaeth y clo anafu ei ben-glin ym mis Ebrill 2015, a bu'n rhaid iddo ymddeol ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach o'i herwydd.
Dywedodd Coombs, 32, bod ganddo "filoedd o bunnau o filiau meddygol i dderbyn gofal angenrheidiol sydd ddim ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd" mewn ymdrech i wella ei ben-glin.
Ond mae'r Dreigiau wedi dweud eu bod wedi parhau i ariannu triniaeth Coombs am fisoedd wedi ei ymddeoliad, a'u bod wedi cynnig cefnogaeth iddo oedd yn mynd y tu hwnt i'r gofynion cytundebol.
Trafodaethau
Ysgrifennodd Coombs ar ei gyfrif Twitter: "Roedd y polisi yn darparu triniaeth feddygol allweddol i'r anaf difrifol wnaeth ddod a fy ngyrfa i ben, wnes i ei ddioddef wrth chwarae i'r rhanbarth."
Aeth ymlaen i ddweud na gafodd y cyfle i ariannu'r polisi ei hun, er bod y rhanbarth "wedi rhoi sicrwydd iddo y byddai'r opsiwn yma ar gael".
Dywedodd llywydd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru a chyn-gefnwr Cymru, Rhys Williams, eu bod wedi cynnal trafodaethau gyda Coombs ers ei anaf.
"Roedden ni'n ymwybodol o'r sefyllfa cyn iddo fynd yn gyhoeddus ddoe [ddydd Mercher]," meddai.
"Byddwn yn parhau i'w gefnogi ym mhob mater am les chwaraewyr."
'Cefnogaeth sylweddol'
Ond mewn ymateb dywedodd prif weithredwr y Dreigiau, Stuart Davies bod y rhanbarth yn "siomedig" gyda sylwadau Coombs, a bod y polisi yswiriant wedi dod i ben oherwydd bod y rhanbarth bellach am ariannu'r driniaeth feddygol eu hunain.
"Ni roddwyd unrhyw sicrwydd i Andrew y byddai'r yswiriant meddygol preifat yn cael ei drosglwyddo, cyn neu ar ôl ei ymddeoliad," meddai Stuart Davies.
"Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio y cafodd Andrew gynnig cefnogaeth ariannol sylweddol y tu hwnt i'r gofynion cytundebol cyn iddo ymddeol, a hynny oherwydd ei wasanaeth hir i'r rhanbarth.
"Fel pob sefydliad rygbi proffesiynol, rydyn ni hefyd yn ariannu cost premiymau er mwyn cynnig cymorth ariannol i chwaraewyr sydd yn dioddef anaf sydd yn dod â'u gyrfa i ben, er mwyn sicrhau bod y chwaraewyr hynny'n cael eu gofalu amdano'n ariannol yn dilyn ymddeoliad dan y fath amgylchiadau."
Ychwanegodd Stuart Davies fod y rhanbarth wedi cynnig i Coombs y gallai barhau i ddefnyddio staff a chyfleusterau meddygol y Dreigiau.
"Rydyn ni'n teimlo ein bod ni wedi ymddwyn yn broffesiynol ac yn rhesymol yn y ffordd rydyn ni wedi delio ag Andrew, o ran rhoi pob cyfle iddo ddychwelyd i'r tîm cyn iddo ymddeol, ac yn ein cefnogaeth barhaus ers iddo ymddeol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2016
