Carchar i ddyn o Fôn am droseddau rhyw yn erbyn plant
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Sir Fôn wedi cael ei garcharu am 13 o flynyddoedd am gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant.
Fe fydd enw Robert John Parry o Drefor, Ynys Môn, hefyd yn cael ei roi ar y gofrestr troseddwyr ryw am oes.
Ar ôl yr achos yn Llys y Goron Caernarfon dywedodd y ditectif gwnstabl Shona Campbell o Heddlu Gogledd Cymru fod Parry, 69 oed wedi manteisio ar blant ifanc bregus dros nifer o flynyddoedd.
"Mae'r dioddefwyr yn credu fod Parry wedi dwyn eu plentyndod oddi arnynt a dwi'n gobeithio y bydd y ddedfryd yma yn gwneud iddynt deimlo eu bod wedi cael rhywfaint o gyfiawnder a'u bod yn gallu symud ymlaen.
"Rydym yn croesawu'r ddedfryd gan ei fod yn adlewyrchu difrifoldeb ac erchylltra ei droseddau."