Dirwyo Cyngor Gwynedd am dorri rheolau amgylcheddol
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cael dirwy o £73,400 ar ôl cyfaddef bod yna ddiffygion yn y ffordd roedd safle gwastraff yn Nhywyn yn cael ei redeg.
Fe blediodd yr awdurdod yn euog i gyhuddiadau o fethu â chydymffurfio â'i dyletswydd o dan reolau amgylcheddol.
Yn ôl barnwr rhanbarth yn y llys yn Llandudno roedd y safle wedi cael ei reoli yn "annigonol".
Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol am ddwyn yr achos yn erbyn y cyngor, oedd yn ymwneud â'r safle Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn Nhywyn.
'Ddim uwchlaw'r gyfraith'
Clywodd y llys bod yna bridd, dail a pheth bitwmen a gwastraff ar y safle, ac fe wnaeth cyfreithiwr ar ran Cyngor Gwynedd dderbyn bod yna esgeulstod gan yr awdurdod.
Yn ôl y barnwr Gwyn Jones, doedd y cyngor ddim wedi cadw at reolau yn cynnwys faint o wastraff oedd yn cael ei storio ar y safle.
"Tydi'r awdurdod ddim uwchlaw'r gyfraith" meddai'r barnwr.
Fe fydd yn rhaid i'r cyngor dalu £3,900 o gostau hefyd.
Cafodd cwmni TD Plant Hire and Haulage, sy'n symud gwastraff o'r iard yn Nhywyn ddirwy o £14,200 a £1,740 o gostau, ar ôl cyfaddef i dair trosedd o dan y Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd. Roedd hynny'n cynnwys cadw gwastraff rheoledig yng Ngellilydan, Blaenau Ffestiniog mewn modd oedd yn debygol o achosi llygredd.
Dywedodd cyfreithiwr ar ran y cwmni nad oedd y troseddau yn fwriadol, ac nad oedd yna lygredd.
Wrth ymateb i'r ddirwy, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Oherwydd natur gwaith Gwasanaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol y Cyngor, rydym yn aml yn delio gyda symiau sylweddol iawn o wastraff ac yn unol â rheoliadau amgylcheddol cenedlaethol yn storio dros dro ac yn cludo gwastraff i leoliadau penodol."
"Rydym yn derbyn ar yr achlysur yma, ein bod wedi mynd y tu hwnt i'r terfyn amser, ac wedi methu â chyrraedd safonau uchel ein hunain."
"Ers y digwyddiad yma, rydym wedi adolygu ein gweithdrefnau yn ofalus ac wedi rhoi trefniadau cadarn ar waith i sicrhau nad ydi digwyddiad o'r fath yn digwydd yn y dyfodol."