Marwolaethau lori godi Caerfaddon: Dau yn euog
- Cyhoeddwyd

O'r chwith uchaf, gyda'r cloc: Mitzi Steady, Phil Allen, Stephen Vaughan a Robert Parker
Yn Llys y Goron Bryste mae perchennog cwmni lorïau a mecanig wedi eu cael yn euog o ddynladdiad pedwar o bobl drwy esgeulustod difrifol mewn gwrthdrawiad ger Caerfaddon ym mis Chwefror 2015.
Bu farw Mitzi Steady, oedd yn bedair oed, Robert Parker, 59, Philip Allen, 52, a Stephen Vaughan, 34, ar ôl cael eu taro gan lori godi a gollodd reolaeth ar allt.
Roedd Mr Allen a Mr Vaughan yn dod o Abertawe, ac roedd Mr Parker yn dod o Gwmbrân.
Cafwyd gyrrwr y lori, Phillip Potter yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn, gan gynnwys achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Dyfarnodd y rheithgor bod Matthew Gordon, perchennog cwmni Grittenham Haulage Limited a'r mecanig Peter Wood yn euog o bedwar cyhuddiad yr un o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Matthew Gordon a Peter Wood
Clywodd y llys bod y lori ar ei phedwaredd taith i chwarel Shorncote i gasglu cerrig mân ar 9 Chwefror 2015, pan fethodd y brêcs, gan achosi i'r cerbyd golli rheolaeth ar allt serth Lansdown.
Roedd Mitzi Steady o Gaerfaddon yn croesi'r ffordd gyda'i Nain, ac roedd y tri dyn o dde Cymru yn eistedd mewn cerbyd Volvo pan gawson nhw eu taro gan y lori.
Roedd Mr Potter, o Dauntsey, wedi gwadu cyhuddiadau o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a gyrru'n ddiofal.
Roedd hefyd wedi ei gyhuddo o achosi niwed difrifol i Karla Brennan ac i Margaret Rogers - Nain Mitzi, a gafodd anafiadau sydd wedi newid ei bywyd.
Fe gafwyd o'n ddieuog o'r deg cyhuddiad yn ei erbyn
Mae Gordon a Wood wedi cael eu cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu dedfrydu ar Ionawr 27.