Bwrdd rhyngwladol eisiau mwy o wybodaeth am North
- Cyhoeddwyd

Mae Corff Rheoli Rygbi'r Byd wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol am y digwyddiad pan wnaeth asgellwr Cymru, George North daro ei ben yn ystod gêm rygbi.
Fe gafodd y chwaraewr 24 oed gyfergyd pan oedd yn chwarae yn y gêm rhwng Northampton Saints a Chaelŷr ddechrau'r mis.
Mae'r corff yn dweud na ddylai North fod wedi cario ymlaen i chwarae ac y dylai fod wedi gadael y cae yn syth, "am fod yna amheuaeth ei fod wedi bod yn anymwybodol."
Mewn adroddiad mae panel Undeb Rygbi Lloegr yn dweud bod y clwb wedi dilyn y canllawiau cywir ac na fydd cosb.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae George North wedi dioddef sawl cyfergyd.