Bwrdd iechyd yn canslo 13,000 triniaeth achos cyflwr cleifion
- Cyhoeddwyd

Mae dros 13,000 o lawdriniaethau wedi cael eu canslo gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ers 2013 gan fod cleifion ddim mewn cyflwr digon da.
Ymysg y rhesymau dros wneud hynny roedd salwch, cyflyrau oedd eisoes yn bresennol a diffyg cydymffurfio â chyngor cyn triniaeth.
Fel mater o arfer, mae meddygon yn profi a yw cleifion mewn cyflwr addas i wynebu eu llawdriniaeth, ac os nad ydyn nhw, mae'r llawdriniaeth yn cael ei chanslo.
Dywedodd y bwrdd iechyd bod nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo wedi disgyn yn y flwyddyn ddiwethaf.

2013-14 - 3,514 o llawdriniaethau wedi eu canslo
2014-15 - 3,860
2015-16 - 3,643
2016-17 (hyd yn hyn) - 1,986

Yn ôl y ffigyrau, roedd y nifer mwyaf y llawdriniaethau gafodd eu canslo yn yr adran gynaecoleg, gyda'r adran trawma ac orthopedia yn ail.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd: "Yn anffodus, weithiau mae'n rhaid canslo llawdriniaethau sydd ddim yn hanfodol pan fo claf yn dost a ddim mewn cyflwr addas ar gyfer llawdriniaeth neu heb ddilyn cyngor cyn triniaeth.
"Mae'r ffigyrau yn eithaf isel, ac mae ein ffigyrau'n dangos bod nifer y llawdriniaethau sydd wedi'u canslo wedi cwympo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda ein cleifion a'u cefnogi i aildrefnu eu llawdriniaeth cyn gynted ag y bo modd."
