Ymgyrch yn arestio mudwyr mewn clinigau ewinedd
- Cyhoeddwyd

Daeth swyddogion o hyd i fudwyr anghyfreithol yn y clinig ewinedd yma yng Nghaerdydd
Mae hi wedi dod i'r amlwg bod pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar draws Cymru fel rhan o ymgyrch i fynd i'r afael â gweithwyr anghyfreithlon yn y diwydiant trin ewinedd.
Fe gwblhaodd yr heddlu 31 o ymweliadau yn ystod yr ymgyrch, sy'n cael ei alw'n Operation Magnify.
Ymysg y rheiny gafodd eu harestio, roedd dyn 31 oed a dynes 41 oed - y ddau o Fietnam - yng nghlinig Cardiff Nails ar Ffordd y Gogledd yn y brifddinas.
Cawson nhw eu harestio ar 2 Rhagfyr am eu bod yn y DU yn anghyfreithlon, ac maen nhw nawr yn y ddalfa ac yn disgwyl cael eu gyrru o'r DU.
Yn yr un digwyddiad, cafodd plentyn ei gyfeirio at wasanaethau cymdeithasol.
Fe dargedodd yr heddlu 280 o fusnesau o gwmpas y DU fel rhan o'r ymgyrch.