Arestio dau ar amheuaeth o geisio llofruddio yn Sir Caerffili

  • Cyhoeddwyd
Mill Court, HafodyrynysFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad honedig ar y stryd yn stad Mill Court

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Hafodyrynys, Sir Caerffili.

Fe gafodd dyn 47 oed o Bont-y-pŵl ei drywanu yn y digwyddiad ar y stryd ym Mill Court tua 03:45 fore Mawrth.

Mae e mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae'r dynion 35 a 32 oed gafodd eu harestio yn y ddalfa, ac mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio.