Gwaith rheilffordd yn parhau i effeithio trenau yn y de
- Cyhoeddwyd

Bydd newidiadau i wasanaethau trên yn ne Cymru parhau ddydd Sadwrn, yn dilyn deuddydd o oedi ar y rheilffyrdd ddydd Iau a ddydd Gwener.
Mae Trenau Arriva Cymru wedi dweud y bydd gwaith yn effeithio ar wasanaethau rhwng Caerdydd Canolog a Maesteg.
Dywedodd y cwmni na fydd trenau rhwng Caerdydd Canolog a Maesteg yn gallu teithio rhwng Pen-y-bont a Caerdydd Canolog drwy Pontyclun.
Fe fydd gwasanaeth fysiau ar gyfer teithwyr i ac o orsaf Pen-y-bont.
Yn ogystal, rhwng 09:00 a 14:00 ni fydd trenau rhwng Caerdydd ac Abertawe sy'n galw ym Mhen-y-bont, Y Pîl, Port Talbot, Baglan, Llansawel, Castell-nedd, Sgiwen a Llansamlet yn gallu rhedeg i'r ddau gyfeiriad ar yr un pryd.
Dywedodd y cwmni y byddai bysiau yn cludo teithwyr yn ystod y cyfnod.

Cafodd nifer o wasanaethau eu heffeithio ddydd Iau ar ôl i waith peirianyddol barhau am gyfnod hirach na'r disgwyl.
Cafodd yr holl drenau i mewn ac allan o orsaf Caerdydd Canolog eu gohirio gan achosi oedi i nifer fawr o wasanaethau am weddill y dydd
Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Trenau Arriva Cymru, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2016
