Arestio dau yn dilyn anafiadau difrifol i ddyn 19 oed
- Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi eu harestio wedi i ddyn 19 oed gael ei anafu'n ddifrifol mewn digwyddiad yng Nghasnewydd.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Ffordd Edward VII am 22:10 nos Galan.
Roedd y dyn mewn cyflwr difrifol ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw dystion i'r digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.