Miloedd yn y môr i ddathlu traddodiad dydd Calan
- Cyhoeddwyd

Roedd rhai wedi mynd i hwyl y peth go iawn gyda'u gwisgoedd
Mae miloedd o bobl ddewr ar hyd a lled Cymru wedi bod yn ymdrochi yn y môr fel rhan o draddodiadau blynyddol ar ddydd Calan.
Cafodd digwyddiadau eu cynnal ar draethau yn Llanussyllt yn Sir Benfro, y Barri ym Mro Morgannwg ac Abersoch yng Ngwynedd wrth i'r nofwyr - rhai mewn gwisgoedd ffansi - fentro i'r dyfroedd rhewllyd.
Ond cafodd digwyddiad ym Morfa Nefyn, Gwynedd ei ganslo oherwydd gwyntoedd cryfion.

Fe heidiodd y nofwyr yn eu miloedd i Lanussyllt
Mentrodd dros 1,800 o bobl i'r môr yn Llanussyllt, tra bod tua 500 wedi plymio i'r dŵr yn Abersoch a'r Barri.
Dywedodd cadeirydd criw bad achub Abersoch, Phill Brown fod y digwyddiad wedi ennyn "cefnogaeth dda gan nofwyr a gwylwyr", ac yn ôl trefnydd oefad y Barri roedd hi wedi mynd yn "wych".
Ychwanegodd trefnydd y digwyddiad yn Llanussyllt, Martyn Williams bod y "pentref a'r gymuned ehangach yn falch iawn" o allu cynnal "digwyddiad mor fawr".




Mentrodd rhai i'r dŵr ger Caergybi ar Ynys Môn