Crystal Palace 1-2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Angel RangelFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Abertawe wedi codi o waelod yr Uwchgynghrair wedi buddugoliaeth ddramatig oddi cartref yn Crystal Palace.

Daeth y gôl allweddol ar ôl 88 munud, pan rwydodd Angel Rangel o ganol y cwrt cosbi.

Funudau ynghynt, roedd Wilfred Zaha wedi unioni'r sgôr gyda gôl wych i Palace - hynny wedi i beniad Alfie Mawson roi'r Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Yn gwylio o'r eisteddle yn Selhurst Park roedd Paul Clement, gafodd ei enwi'n brif hyfforddwr yn gynharach ddydd Mawrth.

Paul ClementFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prif hyfforddwr newydd yr Elyrch, Paul Clement, yn gwylio'r gêm yn Selhurst Park

Y rheolwr dros dro, Alan Curtis, ddewisodd y tîm yn erbyn Palace, a dechreuodd pethau'n dda, gyda'r Elyrch ar y droed flaen am y rhan fwyaf o'r hanner cyntaf.

Fe fethodd Ki Sung-yueng, Federico Fernandez a Jack Cork gyfleon da, cyn i Mawson sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb yn y gynghrair gyda pheniad o gic rydd Gylfi Sigurdsson.

Ond ceisio dal eu mantais oedd eu hanes am y rhan fwyaf o'r ail hanner, a gyda saith munud i fynd fe sgoriodd Wilfred Zaha foli ddisglair i unioni'r sgôr.

Er hynny, daeth yr Elyrch yn ôl, gyda gôl Rangel yn sicrhau buddugoliaeth allweddol i glwb sydd newydd benodi eu trydydd rheolwr mewn tymor.

Gyda'r tri phwynt, mae Abertawe yn codi i'r 19eg safle ar 15 o bwyntiau - un yn llai na Crystal Palace, sy'n 17eg yn y gynghrair.