Amlgampau'r Cymry

  • Cyhoeddwyd

Mae'n freuddwyd i'r rhan fwyaf ohonom i gymryd rhan mewn chwaraeon ar y lefel uchaf, ac yn enwedig i gynrychioli ein gwlad.

Ond mae ambell Gymro a Chymraes wedi llwyddo i ragori mewn mwy nag un gamp. Dyma gasgliad o rai o'r Cymry aml-dalentog:

line

JPR Williams

jprFfynhonnell y llun, EPA

Roedd John Peter Rhys Williams yn aelod allweddol o dîm disglair rygbi Cymru enillodd y Gamp Lawn deirgwaith a'r Goron Driphlyg ar chwech achlysur yn niwedd y 60au a'r 70au.

Ond roedd JPR hefyd yn chwaraewr tenis medrus, gan guro John Lloyd ac ennill Pencampwriaeth Ieuenctid Prydain yn 1966.

line

Non Evans

non evans

Enillodd Non Evans 87 o gapiau tra'n cynrychioli tîm rygbi merched Cymru rhwng 1996 a 2010. Fe wnaeth hi hefyd gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn y cystadlaethau jiwdo, codi pwysau a reslo.

line

Chris Wyatt

wyattFfynhonnell y llun, Getty Images

Pêl-droed oedd cariad cyntaf Chris Wyatt ac mi chwaraeodd dros Gasnewydd pan oedd yn ifanc.

Roedd Wyatt hefyd yn chwaraewr pêl-fasged medrus ond fe drodd at rygbi yn 17 oed. Aeth y clo yn ei flaen i ennill 38 o gapiau dros Gymru rhwng 1998 a 2003.

line

Wilf Wooller

woollerFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Wilf Wooller o Landrillo-yn-Rhos 18 o gapiau dros dîm rygbi Cymru rhwng 1933 a 1939. Hefyd, chwaraeodd 430 o gemau criced dosbarth cyntaf gan gynrychioli Prifysgol Caergrawnt, MCC a Sir Morgannwg. Yn ogystal â rhagori mewn rygbi a chriced, chwaraeodd sboncen dros Gymru, pêl-droed i Ddinas Caerdydd, a bowls dros Glwb Athletig Caerdydd.

Cafodd ei ddal gan filwyr o Siapan yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'i garcharu yng ngharchar Changi yn Singapore. Wedi'r rhyfel aeth ymlaen i ddarlledu gyda'r BBC a bu'n newyddiadurwr chwaraeon i'r Sunday Telegraph.

line

Nigel Walker

walkerFfynhonnell y llun, Getty Images

Daeth Nigel Walker i sylw'r cyhoedd fel rhedwr yn y gystadleuaeth 110m dros y clwydi. Cynrychiolodd Brydain yng Ngemau Olympaidd Los Angeles, 1984, a Chymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 1986 a 1990.

Oherwydd ei ddawn fel gwibiwr roedd yn asgellwr llwyddiannus i dimau rygbi Caerdydd a Chymru. Cafodd 17 o gapiau dros ei wlad gan sgorio 12 cais. Roedd hefyd yn fuddugol fel cystadleuydd ar y gyfres deledu boblogaidd Gladiators.

line

Aaron Ramsey

ramseyFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd chwaraewr canol cae Cymru yn bencampwr pentathalon ysgolion Cymru yn 2005, ac yn bedwerydd yn netholion pentathalon Prydain dan 17 yn 2006. Roedd hefyd yn chwarae rygbi dros Gaerffili.

Cyn iddo arwyddo i dîm pêl-droed Caerdydd roedd gan St Helens ddiddordeb yn ei arwyddo i chwarae rygbi tri ar ddeg.

line

Terry Price

terry

Gwnaeth Terry Price enw iddo ei hun fel cefnwr cadarn i dimau rygbi Llanelli, Cymru a'r Llewod. Symudodd i ogledd Lloegr yn 1967 i chwarae rygbi tri ar ddeg i Bradford Northern.

Mi wnaeth gynrychioli timau tri ar ddeg Cymru a Phrydain cyn croesi'r Iwerydd i gael treialon fel ciciwr gyda thîm pêl-droed Americanaidd y Buffalo Bills.

line

Terry Yorath

yorathFfynhonnell y llun, Getty Images

Fel bachgen ifanc yng Nghaerdydd roedd Terry Yorath yn chwaraewr pêl-fâs. Roedd amryw o chwaraewyr pêl-droed a rygbi eraill yn chwarae'r gêm, fel John Toshack, Mark Ring a Dai Bishop.

Chwaraeodd Yorath bêl-droed i nifer o glybiau gan gynnwys Leeds, Coventry, Spurs ac Abertawe, a bu'n gapten ar ei wlad 42 o weithiau.

Wedi iddo ymddeol o chwarae bu'n rheolwr ar nifer o glybiau gan gynnwys Bradford City ac Abertawe. Fel rheolwr Cymru daeth o fewn trwch blewyn at arwain ei wlad i rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1994.

line

Matthew Robinson

matthew robinsonFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Matthew Robinson yn chwarae ar yr asgell dros dîm rygbi Abertawe pan gafodd ei alw i'r garfan rhyngwladol gan Graham Henry yn 1999. Cafodd bedwar cap dros Gymru ac aeth ar y daith i'r Ariannin lle sgoriodd bedair cais mewn un gêm yn erbyn talaith Tucumán.

Roedd hefyd yn gricedwr a chwaraeodd dros Swydd Henffordd. Wedi iddo ymddeol o rygbi a chriced aeth i hyfforddi athletau yn Qatar, ac mae bellach yn hyfforddi mewn ysgol fonedd yn Kent.

line

Maurice Turnbull

TurnbullFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Maurice Turnbull (ar y pen ar yr ochr dde) yn gricedwr a gynrychiolodd Lloegr mewn naw gêm brawf rhwng 1930 a 1936.

Ynghyd â phump o'i frodyr, chwaraeodd rygbi dros Gaerdydd a chwaraeodd ddwywaith dros Gymru yn 1933. Cafodd ei ladd yn yr Ail Ryfel Byd yn ystod brwydr ym mhentref Montchamp yn Ffrainc yn 1944.

line

Ben Davies

BenFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae chwaraewr Tottenham Hotspur, Ben Davies, yn rhan allweddol o amddiffyn tîm pêl-droed Cymru ac roedd yn un o sêr y garfan ym Mhencampwriaeth Euro 2016.

Roedd yn rhagori mewn chwaraeon eraill pan oedd yn iau cyn canolbwyntio ar bêl-droed. Tra'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera roedd yn gapten ar y tîm rygbi, y tîm criced a'r tîm pêl-droed.

line

Byron Hayward

haywardFfynhonnell y llun, Getty Images

Chwaraeodd Byron Hayward i nifer o glybiau rygbi Cymru - Abertyleri, Glyn Ebwy, Llanelli a Phontypŵl - cyn croesi'r ffin i chwarae i Sale a Chaerloyw yn Uwch Gynghrair Lloegr. Enillodd y cefnwr ddau gap dros Gymru yn 1998, gan sgorio tri chais yn erbyn Zimbabwe ar ei ymddangosiad cyntaf.

Roedd hefyd yn focsiwr amatur llwyddiannus, gan barhau i baffio tra'n dilyn ei yrfa rygbi.