Cyn-gyfarwyddwr addysg Dyfed wedi marw
- Cyhoeddwyd

Roedd John Ellis OBE yn 78 oed
Bu farw cyfarwyddwr addysg olaf sir Dyfed, John Ellis OBE, yn 78 oed.
Roedd Mr Ellis hefyd yn is-gadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne, ac roedd yn un o sylfaenwyr Menter Cwm Gwendraeth.
Roedd yn ffigwr amlwg ar nifer o gyrff cyhoeddus, ac roedd hefyd yn Is-Lywydd Dolen Cymru - sef y cyswllt rhwng Cymru a Lesotho - ac yn llysgennad Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru.
Yn Gymro Cymraeg, cafodd ei eni yn Abergynolwyn yng Ngwynedd a chael ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tywyn cyn graddio o Brifysgol Abertawe.
Ar ôl gyrfa fel athro yn Lloegr fe ddychwelodd i Gymru i weithio i awdurdod addysg Abertawe cyn cael ei benodi'n gyfarwyddwr addysg Dyfed yn 1990.
Fe wnaeth ymddeol o'r swydd yn 1996 cyn ad-drefnu awdurdodau lleol.
Yn ŵr gweddw, mae'n gadael dau o blant a chwech o wyrion a wyresau.