Pledio'n euog i ddynladdiad yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Errol Richards bledio'n euog i ddynladdiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau
Mae dyn 22 oed wedi cyfaddef lladd dyn yng Nghaerfyrddin yr haf diwethaf.
Bu farw Timothy Simon John, 47 oed, 12 diwrnod wedi'r digwyddiad ar Heol Morgan ar 27 Mehefin.
Fe wnaeth dyn lleol, Errol Richards bledio'n euog i ddynladdiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.
Roedd wedi wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth, ond fe wnaeth yr erlyniad dderbyn ei ble i ddynladdiad.
Cafodd Richards ei gadw yn y ddalfa cyn cael ei ddedfrydu ar 27 Ionawr.