Trafferth band eang i nifer o ysgolion cynradd
- Cyhoeddwyd

Mae chwech o'r ysgolion dan sylw ym Mhowys, a chwech arall yn Sir Gaerfyrddin
Mae hi wedi dod i'r amlwg fod cyflymdra araf band eang mewn rhai ardaloedd yng Nghymru wedi achosi problemau i 28 o ysgolion cynradd wrth iddynt geisio defnyddio adnoddau addysgu ar-lein.
Mae'r broblem yn effeithio ysgolion mewn naw o awdurdodau lleol.
Y siroedd sydd wedi eu heffeithio fwyaf yw Caerfyrddin a Phowys - gyda chwe ysgol yr un wedi eu heffeithio.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod fod angen gwneud mwy a bod cyhoeddiad ynglŷn â chyllido wedi ei wneud ym mis Tachwedd.
Daeth y ffigyrau i'r amlwg pan ysgrifennodd AS Sir Drefaldwyn Russell George at yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ynglŷn â chwyn yr oedd ef wedi ei dderbyn gan Ysgol Pontrobert, Meifod.
'Dan anfantais'
Dywed yr ysgol yn eu llythyr: "Mae cyflymdra'r rhyngrwyd mor araf fel na allwn archifo bron dim o'n tasgau ar gyfer y maes llafur sy'n dangos ein gallu digidol.
"Byddai'n cymryd drwy'r bore i gysylltu â'r Hwb - sef y safle y dylai bob disgybl yng Nghrymu fod yn gweithio arno yn ddyddiol."
Dywedodd Mr George ei bod yn annerbyniol fod cannoedd o blant yng Nghymru dan anfantais addysgol oherwydd cysylltiadau band eang.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd eu bod yn buddsoddi £5m er mwyn gwella cyflymdra band eang.
Mewn ateb ysgrifenedig dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams fod gan y rhan fwyaf o ysgolion y cyflymdra angenrheidiol o ran band eang sy'n eu galluogi i ddefnyddio'r Hwb.
Dywedodd fod 28 o ysgolion â chyflymdra o lai na'r ymroddiad a roddwyd o 10 megabit yr eiliad, ond nad oedd hynny o anghenraid yn golygu nad oedd ganddynt fynediad i blatfform Hwb.
Yn ôl Ms Williams roedd yr oedi wedi bod oherwydd "costau adeiladwaith uchel a bod hynny yn bennaf oherwydd is adeiladwaith telegyfathrebu gwael yr ardal".
Ym mis Tachwedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi buddsoddiad o £5m er mwyn galluogi ysgolion i gael mynediad i fand eang cyflym.
Dywedodd llefarydd ar ran Ms Williams: "Rydym yn gweithio yn agos gyda'r awdurdodau lleol perthnasol er mwyn sicrhau fod y 28 ysgol sydd wedi eu heffeithio yn cael gwasanaethau band eang fydd yn cefnogi eu gofynion yn y maes digidol erbyn diwedd mis Mawrth eleni."