Llai o Gymry'n marw o achos clefyd y galon
- Cyhoeddwyd

Mae bron i 1,000 yn llai o bobl yn marw o ganlyniad i glefyd y galon yng Nghymru pob blwyddyn, ond fe ellir gwneud mwy meddai'r gweinidog iechyd.
Dywedodd Vaughan Gething ei fod am adeiladu ar "lwyddiant gwych" wrth i Gynllun Cyflawni Clefyd y Galon gael ei gyhoeddi.
Mae'r cynllun yn galw am fwy o waith i fynd i'r afael a ffactorau sy'n cynyddu risg fel ysmygu, yfed, a gordewdra mewn grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd.
Mae hefyd yn awgrymu mwy o driniaethau a chymorth cynt i bobl sydd wedi cael trawiadau ar y galon tu hwnt i ysbytai.
Yn ôl yr adroddiad roedd "gostyngiad cyson" o ychydig dros 10,000 o farwolaethau yng Nghymru o achos clefydau amrywiol ar y galon yn 2010 i ychydig dros 9,000 yn 2015.
'Arweinydd y byd'
Ond mae hefyd yn rhybuddio fod pobl mewn ardaloedd difreintiedig yn parhau i ddioddef mwy, gyda'r marwolaethau cynnar o achos clefyd y galon ddwywaith yn uwch ym Mlaenau Gwent - 106 marwolaeth ymysg 100,000 o bobl, o'i gymharu â Bro Morgannwg, oedd gyda 56 marwolaeth ymysg yr un nifer o bobl.
"Mae afiechyd cardiofasgiwlar yn parhau yn un o brif achosion o afiechyd a marwolaeth yng Nghymru", meddai Judith Paget, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a chadeirydd Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Iechyd y Galon ar hyd Cymru.
"Rydym yn gwybod fod rhoi'r gorau i ysmygu ac ymarfer corff cyson yn gallu lleihau'r risg o glefyd y galon, a'n cynllun yw edrych ar sut y gallwn helpu pobl i wneud penderfyniadau iach."
Ychwanegodd Mr Gething: "Fe wnaeth Sefydliad y Galon Prydain ddisgrifio Cymru'n ddiweddar fel arweinydd y byd mewn adferiad cardiac, gan ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sydd yn derbyn y gwasanaeth yn dilyn trawiad ar y galon."