Carcharu dyn o'r gogledd am droseddau rhyw gyda phlentyn
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Sir Conwy wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd am droseddau rhyw yn erbyn plentyn.
Roedd Peris Griffiths, 45 oed o Lanfairfechan, wedi pledio'n euog i 26 cyhuddiad gan gynnwys treisio plentyn.
Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Caernarfon bod y troseddau wedi cael effaith "ddinistriol".
Ymysg y cyhuddiadau eraill roedd Griffiths wedi pledio'n euog iddyn nhw roedd ymosodiad rhyw, annog gweithgaredd rhyw a throseddau'n ymwneud â delweddau anweddus.
Roedd wedi pledio'n ddi-euog i ddau gyhuddiad arall.
Bydd rhaid i Griffiths gofrestru fel troseddwr rhyw a cafodd y cyfnod y bydd dan amodau arbennig ar ôl cael ei ryddhau ei ymestyn bedair blynedd.