Ailddechrau chwilio am ddyn 51 oed
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi bod yn chwilio am Mr Skeen ers dydd Mawrth
Mae timau achub wedi ailddechrau chwilio am ddyn 51 o Bowys sydd ar goll yn ardal Talgarth.
Fe gafodd David Skeen ei weld y tro diwethaf pan adawodd ei gartref am 09:00 ddydd Mawrth er mwyn mynd i redeg.
Mae timau achub mynydd a'r heddlu wedi bod yn chwilio am y dyn 5'8" o daldra, o gorff tenau a gyda gwallt brown byr.
Mae'r heddlu wedi galw ar bobl Talgarth i edrych mewn siediau, ac i ffermwyr lleol archwilio unrhyw adeiladau.