Cyngor yn cynnig Ap sy'n gymorth i fonitro lefelau sŵn

  • Cyhoeddwyd
Noise monitorFfynhonnell y llun, other

Fe all pobl yn sir Gaerfyrddin sydd am wneud cwyn i'r cyngor am lefelau sŵn nawr wneud hynny drwy ddefnyddio ap.

Mae'r ap, sy'n gallu cael ei lawrlwytho i ffon symudol neu ddyfais table, yn galluogi pobl i recordio sŵn uchel a'i anfon i'r cyngor.

Fe fydd y cofnod wedyn yn cael i drosglwyddo i swyddogion amgylcheddol er mwyn cael ei ymchwilio ymhellach.

Mae'r sir yn derbyn tua 900 o gwynion ynglŷn â lefelau sŵn uchel bod blwyddyn - ac mae'r rhain yn cynnwys cŵn yn cyfarth, larymau a phobl yn gwneud gwaith atgyweirio yn y tŷ.

Dywedodd Jim Jones, aelod o fwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin sydd â chyfrifoldeb am amddiffyn y cyhoeddus: "Weithiau oherwydd prinder tystiolaeth mae'n anodd dilyn cwynion am lefelau sŵn uchel i'r eithaf."

"Felly fe fydd yr am yma yn caniatáu i ni gasglu gwybodaeth wrth ymchwilio, ac yn ei gwneud yn haws i ddatrys problemau."