Dod o hyd i gorff yn y canolbarth
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n chwilio am ddyn sydd wedi bod ar goll o'i gartref ym Mhowys am bedwar diwrnod wedi dod o hyd i gorff yn ardal Talgarth.
Bu timau achub mynydd a'r gwasanaeth tân ac achub yn cynorthwyo'r heddlu wrth iddynt chwilio am David Skeen.
Dywed yr heddlu nad ydynt wedi adnabod y corff yn ffurfiol, ond eu bod wedi rhoi gwybod i deulu Mr Skeen am y datblygiadau diweddara.
Cafodd y dyn 51 oed o Dalgarth ei weld am y tro olaf am 09:00 ddydd Mawrth wrth iddo adael ei gartref i fynd i redeg.
Roedd aelodau o Wasanaeth Ambiwlans De Orllewin Lloegr, cyn gyd-weithwyr i Mr Skeen, hefyd wedi gwirfoddoli i helpu gyda'r ymgyrch chwilio.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi gofyn i drigolion Talgarth chwilio siediau, ac i ffermwyr lleol archwilio adeiladau allanol rhag ofn iddynt ddod o hyd i Mr Skeen.