Gweilch 29-7 Connacht
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y tîm cartref ddringo i frig y Pro12 gyda buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Connacht ar y Liberty.
Dechreuodd y Gweilch ar dân, gyda Dan Baker ac Olly Cracknell yn croesi'r llinell i roi'r tîm cartref 14-0 ar y blaen ar yr egwyl.
Croesodd y prop Nicky Smith ar gyfer y trydydd cais, cyn Sean O'Brien daro nôl i Connacht.
Er bod y maswr Sam Davies wedi ei anfon o'r maes ar ôl derbyn cerdyn melyn fe wnaeth Ashley Beck selio'r fuddugoliaeth a phwynt bonws gyda chais yn y funud olaf.
Dyma ail fuddugoliaeth tîm Steve Tandy dros Connacht y tymor hwn.