Dechrau ymgynghori ar strategaeth dementia Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ddydd Llun fel rhan o'r broses o lunio strategaeth ar gyfer cleifion sydd â dementia yng Nghymru.
Yn ôl ffigyrau'r Gymdeithas Alzheimer, mae 45,000 o bobl yn byw â'r cyflwr yn y wlad.
Bydd ymgynghoriad y llywodraeth yn para tan fis Mawrth ac yn cael ei gynnal ar y cyd gyda'r Gymdeithas Alzheimer a'r Dementia Engagement and Empowerment Project (DEEP).
Dywedodd cyfarwyddwr y gymdeithas bod yr ymgynghoriad yn "arwyddocaol iawn".
Dementia yw prif achos marwolaethau yng Nghymru a Lloegr bellach.
'Uchelgais'
Bydd y gweinidog iechyd, Vaughan Gething, yn lansio'r ymgynghoriad mewn canolfan ofal yng Nghaerdydd ddydd Llun.
Fe ddywedodd Sue Phelps, cyfarwyddwr y Gymdeithas Alzheimer yng Nghymru, ei bod am weld "newid go iawn" yn y ddarpariaeth ar gyfer cleifion.
"Mae'r ymgynghoriad yn arwyddocaol iawn i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia, rŵan ac yn y blynyddoedd i ddod," meddai.
"Byddwn yn pwyso am strategaeth sy'n uchelgeisiol ac o fewn cyrraedd er mwyn sicrhau newid go iawn fydd yn cefnogi'r 45,000 yng Nghymru sydd â dementia."
Mae'r gymdeithas yn dweud bod dementia'n costio £1.4bn y flwyddyn i Gymru.