Troseddwyr ifanc i baratoi pryd ar glud i bensiynwyr
- Cyhoeddwyd

Carcharorion ifanc y Parc fydd yn paratoi y prydau ar glud i gyngor Bro Morgannwg
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynllun a fydd yn golygu mai troseddwyr ifanc fydd yn darparu y prydau ar glud yn y sir.
Yn ôl y cyngor fe fydd cael troseddwyr ifanc yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont, i baratoi'r bwyd, yn arbed miloedd o bunnau.
Wedi i'r pryd gael ei goginio yn y Sied Fwyd fe fydd e wedyn yn cael ei gludo i bensiynwyr.
Daeth y syniad am y cynllun ar ôl i wasanaeth pryd ar glud Bro Morgannwg, sydd â 77 cwsmer, wario £37,500 dros ei gyllideb y llynedd.
Colled ariannol
Yn ddiweddar fe ddangosodd adroddiad bod y nifer sy'n derbyn prydau ar glud wedi gostwng yn sylweddol ers 2012.
Bryd hynny roedd oddeutu 112 yn derbyn pryd yn ddyddiol, ond bellach mae wedi gostwng i 45 bob dydd.
Mae prif gwrs a phwdin o'r Sied Fwyd yn costio £4.75, ac yn ôl yr aelod cabinet sy'n edrych ar ôl materion iechyd, tai a gofal cymdeithasol, mae cyflenwyr gwahanol yn gynyddol yn cael eu defnyddio.
Dywedodd Bronwen Brooks cyn y cyfarfod: "Er bod cwsmeriaid yn talu am eu pryd ar glud mae'r gwasanaeth yn gwneud colled ariannol.
"Yr hyn ry'n ni'n ei gynnig yw ein bod yn stopio gwneud y bwyd ein hunain ac yn cyfeirio cwsmeriaid at wasanaeth amgen.
"Fe all y gwasanaeth yma fod yn well na'n gwasanaeth ni gan y bydd ar gael bob dydd o'r wythnos. Yn ogystal bydd unrhyw un yn gallu ei dderbyn ac fe fydd yn fwyd ffres."
Fe gafodd y cynllun ei gymeradwyo gan gynghorwyr Bro Morgannwg brynhawn Llun.