Rhybudd am eira all effeithio ar deithwyr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am eira mewn rhannau o Gymru erbyn diwedd yr wythnos.
Mae disgwyl i eira a gwynt effeithio'r wlad o ddydd Mercher ymlaen.
Daw'r rhybudd melyn wrth i'r Swyddfa Dywydd ddweud y gallai'r tywydd achosi trafferthion i deithwyr.
Mae rhybudd am eira a gwynt i Gonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn ar gyfer dydd Mercher a dydd Iau.
Dydd Iau a Gwener mae rhybudd am eira i Ben-y-bont, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Bro Morgannwg a Wrecsam.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gael ar wefan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol.