Amheuon ynglŷn â'r dreth newydd ar waredu sbwriel
- Cyhoeddwyd

Fe allai treth newydd ar waredu sbwriel yn anghyfreithlon arwain at gostau glanhau uwch, yn ôl y corff sy'n cynrychioli cynghorau Cymru.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) y gallai'r dreth annog rhai i wasgaru gwastraff ar draws mwy o leoliadau, er mwyn ceisio osgoi cael eu dal.
Mae'r WLGA yn croesawu'r dreth newydd, ond yn codi cwestiynau ynglŷn â'r effaith ar y lefel o waredu anghyfreithlon.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r dreth newydd yn canolbwyntio ar esiamplau sylweddol o dor-cyfraith.
Ddydd Mercher fe fydd pwyllgor cyllid y Cynulliad yn trafod Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi, sy'n cynnwys y dreth arfaethedig ar waredu gwastraff yn anghyfreithlon.
'Codi gobeithion'
Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, dywed y Gymdeithas Llywodraeth Leol: "Mae 'na berygl y gellid codi gobeithion ynglŷn â'r effaith fydd y dreth yn cael ar waredu gwastraff anghyfreithlon.
"Er mwyn atal pobl rhag torri'r gyfraith, fe fyddai angen cyhoeddusrwydd ynghylch rhai esiamplau o droseddwyr yn cael eu dal a'u gorfodi i dalu'r dreth.
"Ond er mwyn dal troseddwyr fe fyddai'n rhaid ymroi i fuddsoddi mewn gwyliadwriaeth ac i archwilio'r gwastraff anghyfreithlon.
"Tra'i fod yn bosib fod hyn yn gost-effeithiol lle bo lefel uchel o waredu yn digwydd mae'n anodd cyfiawnhau mewn mân achosion.
"Fe allai hyn annog troseddwyr i waredu gwastraff mewn symiau bach ond mewn lleoliadau niferus, gan felly basio mwy o bwysau a chostau glanhau i'r awdurdodau lleol."
Trosedd
Mae'n bosib na fydd y dreth yn cael fawr o effaith, gan fod gwaredu anghyfreithlon eisoes yn drosedd, sy'n gallu arwain at ddirwy neu hyd yn oed garchar.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru taw'r bwriad oedd "annog pobol i waredu eu gwastraff yn gyfreithlon, ac i dalu'u siâr deg o dreth".
Ychwanegodd: "Mae'r pwerau yma yn ymwneud â'r holl ystod o waredu gwastraff anghyfreithlon. Fe fydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn ystyried sut y bydd hyn yn cael ei weithredu, a ry' ni'n disgwyl y bydd yr Awdurdod yn rhoi ystyriaeth i sut i flaenoriaethau'i adnoddau.
"Mae'n debyg y bydd ACC yn gweithio i gasglu'r dreth, yn enwedig lle bo hyn yn digwydd yn rheolaidd, ond rydyn ni'n disgwyl taw ar safleoedd sylweddol lle bo' lefel uchel o wastraff yn cael ei waredu'n anghyfreithlon fydd ffocws ACC'."