Disgwyl argymell cynllun ynni morlyn Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
MorlynFfynhonnell y llun, Tidal Lagoon Power
GanSteffan Messenger
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

Bydd adroddiad annibynnol yn argymell adeiladu morlyn llanw gwerth £1.3bn ym Mae Abertawe, pan fydd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach.

Mae'r cyhoeddiad yn cael ei weld fel datblygiad allweddol o ran dyfodol y prosiect ynni adnewyddol.

Ar gais Llywodraeth Prydain, mae'r cyn weinidog ynni Charles Hendry wedi treulio bron i flwyddyn yn astudio ymarferoldeb y cynlluniau.

Gobaith y datblygwyr yw sefydlu rhwydwaith o forlynnoedd ar hyd arfordir y DU, gan ddechrau yn Abertawe.

Map

Mae cryn ddyfalu o fewn y diwydiant ac mewn adroddiadau papur newydd fod Charles Hendry wedi dod i gasgliadau ffafriol.

Ond hyd yn oed pe byddai'n datgan ei gefnogaeth mae sawl cam arall i fynd cyn bod y gwaith adeiladu'n medru dechrau.

12% o ynni

Byddai'r cynllun ym Mae Abertawe yn cynnwys 16 o dyrbinau ar hyd morglawdd newydd, ond mae'n cael ei weld fel cynllun prawf ar gyfer cynlluniau llawer mwy.

Gallai'r rhain gynnwys safleoedd yng Nghymru ym Mae Caerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn; ac yn Lloegr, oddi ar arfordir Cumbria a Bae Bridgwater.

Disgrifiad,

Mae Ann MacGarry o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn dweud y byddai'r morlyn llanw yn dod a llawer o fanteision i Gymru

Darlun artistFfynhonnell y llun, Tidal Lagoon Power
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynllun yn defnyddio 16 o dyrbinau ar hyd morglawdd newydd

Bydd angen i'r datblygwr, Tidal Lagoon Power, ddod i gytundeb gyda Llywodraeth Prydain ynglŷn â'r cymhorthdal fydd yn cael ei dalu am drydan o'r safle.

Mae'r cwmni yn dweud y bydd Abertawe yn profi'r dechnoleg, ond yn gallu cynhyrchu hyd at 12% o ynni'r DU yn y pendraw.

Yn ôl y cwmni, bydd y safle yn cynhyrchu trydan am 120 o flynyddoedd, ac maen nhw'n ceisio am gytundeb am daliad o £89.90 i bob megawat awr (MWh).

Byddai hynny'n is na'r £92.50 i bob MWh i orsaf pŵer niwclear Hinkley C.

Disgrifiad,

Byddai adeiladu morlyn llanw Bae Abertawe yn "gyfle heb ei ail" yn ôl cyfarwyddwr cwmni contractwyr, Huw Llywelyn

Pryder amgylcheddol

Mae hefyd angen trwydded forol gan y corff sy'n gyfrifol am yr amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Er i dros 20 o gwmnïau annog i'r cynllun gael ei gymeradwyo yn gynharach yn yr wythnos, mae pryderon yn dal i fod am effaith amgylcheddol ar bysgod, adar a'r posibilrwydd am lifogydd.

Mae llywydd Cymdeithas, Cymdeithas Brithyll ac Eog Cymru, Rhys Llywelyn yn rhybuddio y gallai'r cynllun gael effaith andwyol ar stoc bysgod: "Ma'r niwed i bysgod a rhywogaethau eraill yn mynd i fod yn anferth, ond hefyd, os dy' chi'n edrych ar yr ochr economaidd, dyw'r syms ddim yn neud synnwyr a dweud y gwir wrthoch chi.

"Maen nhw'n son am gynllun dros 95 neu 120 o flynyddoedd, lle mewn gwirionedd, dyw'r project yma ddim yn mynd i bara 40, 30, 20 mlynedd, a byddwn ni'n cael ein gadael gyda'r peth ofnadwy yma yn llygru Bae Abertawe."

Bydd Charles Hendry yn cyhoeddi ei gasgliadau mewn cynhadledd arbennig yn Nhŷ'r Cyffredin am 11:30.