Dyn wedi marw mewn tân ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r tŷ ar Deras Gwilym am 09:44 fore Gwener.
Roedd rhaid defnyddio dwy injan dân yn y digwyddiad.
Bydd ymchwiliad rhwng y gwasanaeth tân a'r heddlu rŵan yn cael ei gynnal.